Gall dechrau yn y brifysgol fod yn brofiad cyffrous ond gall fod yn brofiad llethol hefyd, gyda phynciau newydd, darlithoedd, a llawer iawn o wybodaeth newydd i'w phrosesu. Bydd datblygu sgiliau effeithiol ar gyfer cymryd nodiadau yn allweddol i'ch helpu i lywio drwy eich taith academaidd yn llwyddiannus.
Nod y modiwl hwn yw eich paratoi drwy roi'r gallu a'r technegau angenrheidiol i chi gymryd nodiadau cynhwysfawr, trefnus ac ystyrlon yn ystod darlithoedd, seminarau, a sesiynau astudio annibynnol. Drwy feistroli'r grefft o gymryd nodiadau, byddwch chi'n gwella eich dealltwriaeth, lefel yr wybodaeth rydych chi'n gallu ei chofio a'ch dull o ymwneud â deunydd y cwrs, a bydd hyn yn eich galluogi i ragori'n academaidd. Rydyn ni’n mawr obeithio y bydd y modiwl hwn yn ddiddorol ac yn rhoi darlun cynhwysfawr i chi wrth i chi gychwyn ar eich taith i feistroli’r grefft o gymryd nodiau yn effeithiol a hyderus. Amdani!
Beth yw'r cynnwys
- Beth yw cymryd nodiadau?
- Beth yw gwneud nodiadau?
- Pam cymryd nodiadau?
- Strategaethau ar gyfer cymryd nodiadau
- Cynghorion ac Awgrymiadau
- Senario Cymryd Nodiadau – Oma
- Senario Cymryd Nodiadau – Miriam
- Senario Cymryd Nodiadau – Emma
- Senario Cymryd Nodiadau – George
- Senario Cymryd Nodiadau – Isla
- Casgliad